Luke 14:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha, geir i vron ydd oedd ryw ðyn claf or dropsi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, rhyw ddyn claf o’r dropsi oedd ger Ei fron.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wele ger ei fron ryw ddyn a oedd yn glaf o’r dyfrglwyf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw ddyn yn glaf o'r dropsi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
am fod dyn o'i flaen oedd a'i freichiau a'i goesau wedi chwyddo'n fawr am fod y dropsi arno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yno ger ei fron yr oedd dyn 'r dropsi arno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw wr yn glaf o'r dyfr‐glwyf.