Luke 14:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly yr a d ymchwelawð y gwas hwnw, ac y menagawdd y’w arglwydd y pethae hynn. Yno y digiawdd gwr y tuy, ac y dyuot wrth y gwas, Dos allan ar ffrwst, ir heolydd ar gwigoedd y dinas, a’ dwc y mewn yma y tlodion, a’r efryddon, a’r anafuson, a’r daillion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod atto, y gwas a fynegodd i’w arglwydd y pethau hyn. Yna, wedi llidio, gŵr y tŷ a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i lydanfeydd ac heolydd y ddinas, ac y tlodion a’ r anafusion a’ r deillion a’ r cloffion dwg i mewn yma.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth y gwas, a mynegi hyn i’w arglwydd. Yna ffromodd gŵr y tŷ, a dywedodd wrth ei was, ‘Dos allan ar frys i heolydd a strydoedd y ddinas, a dwg yma’r tlodion a’r efryddion a’r deillion a’r cloffion.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gwas hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i'w arglwydd. Yna gŵr y tŷ, wedi digio, a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a'r anafus, a'r cloffion, a'r deillion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly dyma'r gwas yn mynd yn ôl a dweud wrth ei feistr beth oedd wedi digwydd. Roedd y meistr wedi gwylltio, ac meddai wrth y gwas, ‘Dos i'r dre ar unwaith, a thyrd â'r bobl sy'n cardota ar y strydoedd i mewn yma — y tlawd, y methedig, pobl sy'n gloff ac yn ddall.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth y gwas at ei feistr a rhoi gwybod iddo. Yna digiodd meistr y tu375?, ac meddai wrth ei was, 'Dos allan ar unwaith i heolydd a strydoedd cefn y dref, a thyrd 'r tlodion a'r anafusion a'r deillion a'r cloffion i mewn yma.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r gwas, pan gyrhaeddodd, a fynegodd i'w arglwydd y pethau hyn. Yna Meistr y tŷ a fu ddigllawn, ac a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i'r prif‐ystrydoedd a chul‐heolydd y Ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a'r anafusion, a'r deillion, a'r cloffion.