Luke 14:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r gwas a ddyuot, Arglwyð, e ðarvu val y gorchmynaist, ac eto y mae lle.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd y gwas, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynaist, ac etto y mae lle.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd y gwas, ‘Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchmynnaist, ac eto y mae lle.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchmynnaist; ac eto y mae lle.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan ddaeth y gwas yn ôl dwedodd wrth ei feistr, ‘Syr, dw i wedi gwneud beth ddwedaist ti, ond mae yna fwy o le ar ôl o hyd.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddywedodd y gwas, 'Meistr, y mae dy orchymyn wedi ei gyflawni, ond y mae lle o hyd',
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r gwas a ddywedodd, Arglwydd, y peth a orchymynaist sydd wedi ei wneuthur, ac eto y mae lle.