Luke 14:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys‐dywedaf wrthych na bydd ir vn a’r gwyr hyny a ’ohawddwyt chwaythy dim om cwynos i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys dywedaf wrthych, Ni chaiff yr un o’r gwŷr hyny a wahoddwyd brofi o’m swpper.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys dywedaf i chwi na chaiff yr un o’r gwŷr hynny a wahoddwyd brofi o’m swper i.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o'r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o'm swper i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd yna ddim lle i neb o'r bobl hynny gafodd eu gwahodd! Fyddan nhw ddim yn cael tamaid o'r wledd dw i wedi ei threfnu.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd rwy'n dweud wrthych na chaiff dim un o'r rheini oedd wedi eu gwahodd brofi fy ngwledd.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Ni cha neb o'r gwyr hyny sydd wedi eu gwahodd brofi o'm swper i.