Luke 14:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd torfae mowrion yn myned y gyd ac ef, ac ef a droes ac a ddyuot wrthynt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chyd-deithiai ag Ef dorfeydd mawrion; a chan droi,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd tyrfaoedd lawer yn cyd-deithio ag ef, a throes a dywedodd wrthynt,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llawer o bobl a gydgerddodd ag ef: ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd tyrfa fawr o bobl yn teithio gyda Iesu, a dyma fe'n troi atyn nhw a dweud:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd tyrfaoedd niferus yn teithio gydag ef, a throes a dweud wrthynt,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thorfeydd lawer oeddynt yn myned gyd âg ef: ac efe a drodd, ac a ddywedodd wrthynt,