Luke 14:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ s daw neb un at y‐vi, ac eb gasau ei dat, a’ y vam, a’ y wreic a’ y blant, a ’broder a’ chwioredd: ac eto y enaid e hun hefyt, ny ddychon ef vot yn ddiscipul i mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
dywedodd wrthynt, Os yw neb yn dyfod Attaf, ac heb gasau ei dad a’i fam a’i wraig a’i frodyr a’i chwiorydd ac hefyd ei einioes ef ei hun, ni all fod Fy nisgybl I.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Os yw neb yn dyfod ataf i, ac nid yw’n casáu ei dad a’i fam a’i wraig a’i blant a’i frodyr a’i chwiorydd, ie, a’i fywyd ei hun, ni all fod yn ddisgybl i mi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os daw neb ataf fi, ac ni chasao ei dad, a'i fam, a'i wraig, a'i blant, a'i frodyr, a'i chwiorydd, ie, a'i einioes ei hun hefyd, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid i mi ddod o flaen popeth arall yn ei fywyd. Rhaid i'w gariad ata i wneud i bob perthynas arall edrych fel casineb! — ei dad a'i fam, ei wraig a'i blant, ei frodyr a'i chwiorydd — ie, hyd yn oed bywyd ei hun! Neu all e ddim bod yn ddisgybl i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Os daw rhywun ataf fi heb gasu ei dad ei hun, a'i fam a'i wraig a'i blant a'i frodyr a'i chwiorydd, a hyd yn oed ei fywyd ei hun, ni all fod yn ddisgybl imi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os oes neb yn dyfod ataf fi, ac nid yw yn cashâu ei dâd, a'i fam, a'i wraig, a'i blant, a'i frodyr, a'i chwiorydd, ie, a'i einioes ei hun hefyd, ni all efe fod yn ddysgybl i mi: