Luke 14:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Neu pa Vrenhin yn myned i wneuthu rhyvel yn erbyn Brenhin arall, nid eistedd i law ’r yn gyntaf, ac ymgygcori, a vydd ef abl a dec mil, y gyfwrdd a hwn ’s’yn dyuot yn y erbyn ef ac vcain‐mil?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Neu, pa frenhin yn myned i gyfarfod â brenhin arall er rhyfel, nad eistedda yn gyntaf ac ymgynghori ai abl yw, â deng mil, i wrthwynebu yr hwn, gydag ugain mil, sy’n dyfod yn ei erbyn?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Neu pa frenin, ar ei hynt i ymladd brwydr yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all ef â deng mil wynebu’r hwn sy’n dyfod yn ei erbyn ag ugain mil?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Neu pa frenin yn myned i ryfel yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe â deng mil gyfarfod â'r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef ag ugain mil?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A dydy brenin ddim yn mynd i ryfel heb eistedd gyda'i gynghorwyr yn gyntaf, ac ystyried ydy hi'n bosib i'w fyddin o ddeg mil o filwyr drechu'r fyddin o ugain mil sy'n ymosod arno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Neu os bydd brenin ar ei ffordd i ryfela yn erbyn brenin arall, oni fydd yn gyntaf yn eistedd i lawr i ystyried a all ef, deng mil o filwyr, wrthsefyll un sy'n ymosod arno ag ugain mil?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Neu pa frenin yn myned allan i wrth‐daraw â brenin arall mewn rhyfel, nid eistedd yn gyntaf ac ymgynghori a all efe â deng mil gyfarfod â'r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef âg ugain mil?