Luke 14:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Neu tra vo ynt ef ym‐pell y wrthaw, ef a dd envyn gennadwri, ac a ddeisyf arno am odeu tangneddyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os amgen, tra y mae’ r llall ym mhell, cennadwri a ddenfyn efe ac a gyfarch well iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Onid e, ac yntau eto ymhell, fe enfyn genhadau i ofyn am heddwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac os amgen, tra fyddo efe ymhell oddi wrtho, efe a enfyn genadwri, ac a ddeisyf amodau heddwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy'r peth yn amhosib bydd yn anfon swyddogion i geisio cytuno ar delerau heddwch — a hynny pan fydd byddin y gelyn yn dal yn bell i ffwrdd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os na all, bydd yn anfon llysgenhadon i geisio telerau heddwch tra bo'r llall o hyd ymhell i ffwrdd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os amgen, tra fyddo efe eto yn mhell, efe a enfyn lys‐genadaeth, ac a ofyna amodau heddwch.