Luke 14:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Da yw ’r halen, eithyr a diflasa ’r halen, a pha beth yr helltir ef?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Da, gan hyny, yw’r halen; ond os yr halen hefyd a ddiflasa, â pha beth y cyweirir ef?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Da, yn wir, yw’r halen; Ond os cyll yr halen yntau ei rin, â pha beth y rhoir blas arno?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Da yw'r halen: eithr o bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae halen yn ddefnyddiol, ond pan mae'n colli ei flas pa obaith sydd i'w wneud yn hallt eto?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Peth da yw halen. Ond os cyll yr halen ei hun ei flas, pha beth y rhoddir blas arno?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Da gan hyny yw yr halen: eithr os collodd hyd y nod yr halen ei flas, â pha beth yr helltir ef?