Luke 15:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ieu ng af o hanynt a ddyuot wrth y dat, Tad, Dyro i mi y rran o’r da a ddygwydd i mi. Yno y rhannawdd ef yddwynt y vywyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr ieuengaf o honynt wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o’r da; ac efe a rannodd iddynt ei fywyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr ieuangaf ohonynt wrth ei dad, ‘’Nhad, dyro i mi fy nghyfran o’r eiddo.’ A rhannodd yntau rhyngddynt ei dda.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ieuangaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da. Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r mab ifancaf yn mynd at ei dad a dweud, ‘Dad, dw i eisiau i ti roi fy siâr i o'r ystâd i mi nawr.’ Felly dyma'r tad yn cytuno i rannu popeth oedd ganddo rhwng y ddau fab.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yr ieuengaf ohonynt wrth ei dad, 'Fy nhad, dyro imi'r gyfran o'th ystad sydd i ddod imi.' A rhannodd yntau ei eiddo rhyngddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'r ieuengaf o honynt a ddywedodd wrth ei dâd, Fy Nhâd, dyro i mi y gyfran o'r meddianau sydd yn syrthio i mi: ac efe a ranodd iddynt y fywoliaeth.