Luke 15:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy yddaw draulio y gyd oll, y codes drudaniaeth mawr trwy ’r vro hono, ac yntef a ddechreuawdd vot arno ddeffic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi gwario o hono y cwbl, digwyddodd newyn tost trwy’r wlad honno,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo dreulio’r cwbl, bu newyn tost trwy’r wlad honno, a dechreuodd ddioddef eisiau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo dreulio'r cwbl, y cododd newyn mawr trwy'r wlad honno; ac yntau a ddechreuodd fod mewn eisiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl iddo golli'r cwbl bu newyn difrifol drwy'r wlad, ac roedd yn dechrau llwgu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd wedi gwario'r cyfan, daeth newyn enbyd ar y wlad honno, a dechreuodd yntau fod mewn eisiau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo dreulio y cwbl, daeth newyn mawr drwy y wlad hono: ac efe ei hun a ddechreuodd ddyoddef eisieu.