Luke 15:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth ef ataw y hun ac y dyuot, Pa sawl cyfloc- ðyn gyd a’m tat ’sy yn cahel ei llawn ddigon o vara, a’mynef yn marw o newyn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod i’w bwyll dywedodd, Pa sawl gwas cyflog o’r eiddo fy nhad sydd a chanddynt dros ben o fara; ac myfi, o newyn yr wyf yma ar ddarfod am danaf?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddaeth ato’i hun, fe ddywedodd, ‘Pa sawl gwas cyflog i’m tad sydd ganddynt eu gwala o fara, a minnau’n marw yma o newyn!
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth ato ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o'r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a'u gweddill o fara, a minnau yn marw o newyn?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Calliodd o'r diwedd, ac meddai ‘Beth dw i'n ei wneud yn y fan yma yn llwgu i farwolaeth? Mae dad yn cyflogi gweithwyr, ac mae ganddyn nhw ddigonedd o fwyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth ato'i hun a dweud, 'Faint o weision cyflog sydd gan fy nhad, a phob un ohonynt yn cael mwy na digon o fara, a minnau yma yn marw o newyn?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth ato ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o'r eiddo fy nhâd sydd ganddynt gyflawnder o fara, a minau yma ar ddarfod am danaf gan newyn!