Luke 15:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny murmur a wnaeth y Pharisaiait a’r Gwyr‐llen, can ddywedyt, Ef a a dd erbyn bechaturieit, ac a vwyty y gyd ac wynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A grwgnachodd y Pharisheaid a’r ysgrifenyddion hefyd, gan ddywedyd, Hwn, pechaduriaid a dderbyn Efe; a bwytta gyda hwynt y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A grwgnachai’r Phariseaid a’r ysgrifenyddion, gan ddywedyd, “Y mae hwn yn croesawu pechaduriaid, ac yn cyd-fwyta â hwynt.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Phariseaid a'r ysgrifenyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwyta gyda hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd y Phariseaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn cwyno a mwmblan, “Mae'r dyn yma'n rhoi croeso i bobl sy'n ‛bechaduriaid‛! Mae hyd yn oed yn bwyta gyda nhw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion yn grwgnach ymhlith ei gilydd, gan ddweud, "Y mae hwn yn croesawu pechaduriaid ac yn cydfwyta gyda hwy."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Phariseaid a'r Ysgrifenyddion ynghyd oeddynt yn grwgnach yn ddirfawr, gan ddywedyd, Y mae hwn yn gwahodd pechaduriaid, ac yn bwyta gyd â hwynt.