Luke 15:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ef a gyuodes i vyny ac aeth at ei dat, a’ phā oeð ef yn hir‐bell y vvrthavv, ei dat y canvu ef, a chan drugarhau, ef a redawdd, ac a gwympawð yn y vwnwg ef, ac ei cusanawð
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi cyfodi o hono yr aeth at ei dad. Ac efe etto ym mhell oddi wrtho, gwelodd ei dad ef, a thosturiodd, a chan redeg, syrthiodd ar ei wddf, a chusanodd ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chododd ac aeth at ei dad. A phan oedd eto ymhell oddi wrtho, fe’i gwelodd ei dad ef, a thosturiodd, a chan redeg syrthiodd ar ei wddf a chusanodd ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad. A phan oedd efe eto ymhell oddi wrtho, ei dad a'i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly i ffwrdd ag e yn ôl adre. “Gwelodd ei dad e'n dod pan oedd yn dal yn bell i ffwrdd. Roedd ei dad wedi cynhyrfu, a rhedodd at ei fab, a'i gofleidio a'i gusanu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cododd a mynd at ei dad. A phan oedd eto ymhell i ffwrdd, gwelodd ei dad ef. Tosturiodd wrtho, rhedodd ato, a rhoes ei freichiau am ei wddf a'i gusanu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dâd ei hun. A phan oedd efe eto yn mhell oddi wrtho, ei dâd a'i gwelodd ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf, ac a'i cusanodd yn wresog.