Luke 15:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys hwn vy map a oedd varw, ac ys y vyw drachefn: ac e gollesit, ac ei cahad ef. A’ vvy dechreusont vot yn llawen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ymhyfrydwn, canys hwn, fy mab, marw ydoedd, ac adfywiodd; yr oedd wedi ei golli, a chafwyd ef. A dechreuasant ymhyfrydu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys fy mab hwn oedd farw a daeth yn fyw drachefn, yr oedd ar goll ac fe’i cafwyd.’ A dechreuasant fod yn llawen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys fy mab hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddechreuasant fod yn llawen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd fy mab i wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dŷn ni wedi ei gael yn ôl.’ Felly dyma'r parti'n dechrau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd yr oedd hwn, fy mab, wedi marw, a daeth yn fyw eto; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.' Yna dechreusant wledda yn llawen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys fy mab hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw drachefn: yr oedd efe wedi ei golli, ac a gafwyd; a hwy a ddechreuasant fod yn llawen.