Luke 15:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn hyn ydd oedd ey vab hynaf yn y maes, a’ phan ddaeth ef, a dy nesau at y tuy, e glywei gygcanedd a charolae
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd ei fab hynaf yn y maes; a phan, wrth ddyfod, y nesaodd at y tŷ, clywai gynghanedd a dawnsiau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd ei fab hynaf yn y maes; a phan ddaeth a nesáu at y tŷ, clywodd ganu a dawnsio,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes; a phan ddaeth efe a nesáu at y tŷ, efe a glywai gynghanedd a dawnsio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Tra oedd hyn i gyd yn digwydd roedd y mab hynaf allan yn gweithio yn y caeau. Wrth ddod yn ôl at y tŷ roedd yn clywed sŵn cerddoriaeth a dawnsio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yr oedd ei fab hynaf yn y caeau. Pan nesaodd at y tu375? ar ei ffordd adref, clywodd su373?n cerddoriaeth a dawnsio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr oedd ei fab hynaf ef mewn maes: a phan ddaeth efe a neshâu at y tŷ, efe a glywodd gynghanedd a dawnsio.