Luke 15:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ynt ef a atepawdd, ac a ðyuot wrth ei dad, Nycha cynniuer o vlyddynedd ith wasnaethais, ac nyd aythym vn amser dros dy ’orchymyn, ac erioed ny’s roist i mi vynn, val y gallwm wnaethur yn ll awen y gyd a’m cereint.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe gan atteb, a ddywedodd wrth ei dad, Wele cynnifer o flynyddoedd yr wyf yn dy wasanaethu, a’th orchymyn ni throseddais erioed; ac i mi ni roddaist erioed fynn, fel ynghyda’m cyfeillion yr ymhyfrydwn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yntau i’w dad, ‘Edrych gynifer o flynyddoedd yr wyf yn dy wasanaethu, ac ni throseddais i erioed orchymyn o’r eiddot, ac eto i mi ni roddaist erioed fyn, i fod yn llawen gyda’m cyfeillion;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i un amser dy orchymyn; ac ni roddaist fyn erioed i mi, i fod yn llawen gyda'm cyfeillion:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond meddai wrth ei dad, ‘Edrych! Dw i wedi slafio ar hyd y blynyddoedd yma, heb erioed wrthod gwneud unrhyw beth i ti. Ches i erioed fyn gafr gen ti i gael parti gyda fy ffrindiau!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond atebodd ef, 'Yr holl flynyddoedd hyn bm yn was bach iti, heb anufuddhau erioed i'th orchymyn. Ni roddaist erioed i mi gymaint myn gafr, imi gael gwledda gyda'm cyfeillion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dâd, Wele, cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di: ac nid esgeulusais i erioed dy orchymyn: ac ni roddaist erioed fyn i mi, fel y byddwn lawen gyd â'm cyfeillion: