Luke 15:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
And pan ddaeth dy vap hwn, yr vn a ysawð dy dda y gyd a phutenieit, ys lleddaist yddaw ef y llo pascedic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond pan fu i’th fab hwn, yr hwn a lwyr-ddifaodd dy fywyd ynghyda’r putteiniaid, ddyfod, lleddaist iddo y llo pasgedig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr un a ddifaodd dy dda gyda phuteiniaid, lleddaist iddo ef y llo pasgedig.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywyd di gyda phuteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llo pasgedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma hwn yn dod adre — y mab yma sydd gen ti — yr un sydd wedi gwastraffu dy arian di i gyd ar buteiniaid. O! mae'n rhaid i ti ladd y llo sydd wedi ei besgi i hwn!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan ddychwelodd hwn, dy fab sydd wedi difa dy eiddo gyda phuteiniaid, lleddaist iddo ef y llo oedd wedi ei besgi.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywoliaeth gyd â'r puteiniaid, ti a leddaist iddo ef lô pasgedig.