Luke 15:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyuot wrthaw, Ha vap ydd yw ti yn oystat y gyd a mi, ac oll meu vi, ’sy daudi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mhlentyn, tydi, pob amser ynghyda mi yr wyt, a phob peth y sydd eiddof, eiddot ti yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau wrtho, Fy mhlentyn, yr wyt ti gyda mi yn wastad, a thi biau’r cwbl sydd gennyf;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mab, yr wyt ti yn wastadol gyda mi, a'r eiddof fi oll ydynt eiddot ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Machgen i,’ meddai'r tad wrtho, ‘rwyt ti yma bob amser, a ti sydd biau popeth sydd gen i ar ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Fy mhlentyn,' meddai'r tad wrtho, 'yr wyt ti bob amser gyda mi, ac y mae'r cwbl sydd gennyf yn eiddo i ti.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond efe a ddywedodd wrtho, Fy Mhlentyn, Yr wyt ti yn wastadol gyd â mi, a'r oll sydd eiddof fi sydd eiddo ti.