Luke 15:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Raid oedd i ni sirio, a’ gwneuthu’ d yn‐llawen: can ys marw oedd dy vrawt hwn, a’ byw ydyw, drachefn: ac ef a gollesit, ac ei cahad ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ymhyfrydu a llawenychu yr oedd rhaid, canys dy frawd hwn, marw oedd, a byw y mae; ac wedi ei golli, a chafwyd ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
iawn oedd bod yn llon a llawen, canys dy frawd hwn oedd farw, a daeth yn fyw; bu ar goll, ac fe’i cafwyd’.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhaid oedd llawenychu, a gorfoleddu: oblegid dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd rhaid i ni ddathlu — roedd dy frawd wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dŷn ni wedi ei gael yn ôl!’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yn rhaid gwledda a llawenhau, oherwydd yr oedd hwn, dy frawd, wedi marw, a daeth yn fyw; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond rhaid oedd mwynhâu a llawenychu; canys dy frawd hwn oedd farw, ac a ddaeth yn fyw, ac a fu golledig, ac a gafwyd.