Luke 15:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pa ðyn o hanoch a gantho gant o ddeveit, ac a chyll e vn naddwynt, ny ad y namyn vn pemp‐ucain yn y dyffeith, ac a gerdd yn ol yr hon a golles, y’n y chaffo ehi?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa ddyn o honoch a chanddo gant o ddefaid, ac wedi colli o honynt un, na âd y cant namyn un yn yr anialwch, a myned ar ol yr hon a gollwyd nes caffael o hono hi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Pa ddyn ohonoch a chanddo gant o ddefaid, ac wedi colli un ohonynt, nid yw yn gadael y cant namyn un yn yr anialwch, ac yn mynd ar ôl yr hon a gollwyd nes ei chael hi?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa ddyn ohonoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll un ohonynt, nid yw'n gadael y namyn un pum ugain yn yr anialwch, ac yn myned ar ôl yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dychmygwch fod gan un ohonoch chi gant o ddefaid, a bod un ohonyn nhw wedi mynd ar goll. Oni fyddai'n gadael y naw deg naw ar y tir agored ac yn mynd i chwilio am y ddafad aeth ar goll nes dod o hyd iddi?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Bwriwch fod gan un ohonoch chwi gant o ddefaid, a digwydd iddo golli un ohonynt; onid yw'n gadael y naw deg a naw yn yr anialdir ac yn mynd ar l y ddafad golledig nes dod o hyd iddi?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa ddyn o honoch, a chanddo gant o ddefaid, ac wedi colli un o honynt, nid yw yn gadael yn gyfangwbl y naw‐deg a naw yn yr anialwch, ac yn myned ar ol yr hon oedd wedi ei cholli, hyd oni chaffo efe hi?