Luke 15:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy yðaw hi chahel, ef hei gesyt ar ei escwyddae yn llawen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi ei chael, dŷd hi ar ei ysgwyddau dan lawenychu;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi ei chael fe’i gesyd hi ar ei ysgwyddau yn llawen,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo ei chael, efe a'i dyd hi ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A phan mae'n dod o hyd iddi mae mor llawen! Mae'n ei chodi ar ei ysgwyddau
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi dod o hyd iddi y mae'n ei gosod ar ei ysgwyddau yn llawen,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo ei chael, efe a'i gesyd hi ar ei ysgwyddau gan lawenhâu.