Luke 15:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ddel e‐dref, ef a ailw ynghyt ei gereint a ei gymydogion, can ddoedyt wrthwynt, Cydlawenhewch a mi, can i mi gahel ve‐davat y gollesit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi dyfod i’w dŷ, gwahodda ynghyd ei gyfeillion a’i gymmydogion, gan ddywedyd wrthynt, Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais fy nafad a gollasid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi dyfod adref geilw ei ffrindiau a’i gymdogion ynghyd, gan ddywedyd wrthynt, ‘Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais fy nafad a oedd ar goll.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddêl adref, efe a eilw ynghyd ei gyfeillion a'i gymdogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyda mi; canys cefais fy nafad a gollasid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac yn mynd adre. Wedyn mae'n galw ei ffrindiau a'i gymdogion draw, ac yn dweud wrthyn nhw, ‘Dewch i ddathlu; dw i wedi dod o hyd i'r ddafad oedd wedi mynd ar goll.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn mynd adref, ac yn gwahodd ei gyfeillion a'i gymdogion ynghyd, gan ddweud wrthynt, 'Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'm dafad golledig.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddêl adref, y mae yn galw ynghyd ei gyfeillion a'i gymydogion, gan ddywedyd wrthynt, Cyd‐lawenhêwch â mi, canys cefais fy nafad a gollasid.