Luke 15:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi ddywedaf wrthych, mae velly y bydd llewenydd yn y nef am vn pechatur a ðel ir iavvn yn vvvy nac am amyn vn pemp‐ucain o rei cyfiawn ar nyd rait yðwynt wellay ei buchedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedaf wrthych, Felly llawenydd sydd yn y nef am un pechadur yn edifarhau rhagor am gant namyn un o gyfiawnion, y rhai sydd heb raid iddynt wrth edifeirwch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedaf i chwi y bydd llawenydd felly yn y nef am un pechadur a edifarhao, yn fwy nag am gant namyn un o rai cyfiawn, nad oes arnynt angen edifeirwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wir i chi, dyna sut mae hi yn y nefoedd — mae mwy o ddathlu am fod un pechadur wedi troi at Dduw nag am naw deg naw o bobl sy'n meddwl eu bod nhw'n iawn a dim angen newid!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rwy'n dweud wrthych, yr un modd bydd mwy o lawenydd yn y nef am un pechadur sy'n edifarhau nag am naw deg a naw o rai cyfiawn nad oes arnynt angen edifeirwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf yn dywedyd i chwi, Felly y bydd llawenydd yn y Nef dros un pechadur yn edifarhâu, mwy na thros naw‐deg a naw o rai cyfiawn, y cyfryw nid oes eisieu edifeirwch arnynt.