Luke 15:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy yddi gahel, hi a ailw am hei charesae a’ chymydogesae, can ddoedyt, Cydlawenhewch a mi: can ys cefeis y dryll a golleswn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi ei gael ef, gwahodda ynghyd ei chyfeillesau a’i chymmydogesau, gan ddywedyd, Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais y drachm a gollaswn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi ei gael hi eilw ei ffrindiau a’i chymdogesau ynghyd, gan ddywedyd, ‘Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais y swllt a gollais.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghyd ei chyfeillesau a'i chymdogesau, gan ddywedyd, Cydlawenhewch â mi; canys cefais y dryll a gollaswn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan mae'n dod o hyd iddo, mae'n galw ei ffrindiau a'i chymdogion draw, ac yn dweud wrthyn nhw, ‘Dewch i ddathlu; dw i wedi dod o hyd i'r darn arian oedd wedi mynd ar goll.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedi dod o hyd iddo, y mae'n gwahodd ei chyfeillesau a'i chymdogion ynghyd, gan ddweud, 'Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'r darn arian a gollais.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddi ei gael, y mae yn galw ati ei hun ei chyfeillesau a'i chymydogesau, gan ddywedyd, Cyd‐lawenhêwch â mi, canys cefais y drachma a gollais.