Luke 16:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC ef a ðyfot hefyt wrth ei ðiscipulō Ydd oedd rryw ’wr goludoc, ac yðo oruchwiliwr, ac ef a guhuddwyt wrthaw, ddarvot iddaw afradloni y dda ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw ddyn goludog, yr hwn oedd a chanddo ddisdain: a hwn a gyhuddwyd wrtho megis yn gwasgaru ei feddiannau ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac meddai hefyd wrth ei ddisgyblion, “Yr oedd rhyw ddyn cyfoethog, a chanddo oruchwyliwr; a chyhuddwyd hwn wrtho ei fod yn gwastraffu ei eiddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw ŵr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr; a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe megis yn afradloni ei dda ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Iesu'n dweud y stori yma wrth ei ddisgyblion: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn cyflogi fforman, ac wedi clywed sibrydion ei fod yn gwastraffu ei eiddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrth ei ddisgyblion hefyd, "Yr oedd dyn cyfoethog a chanddo oruchwyliwr. Achwynwyd wrth ei feistr fod hwn yn gwastraffu ei eiddo ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y Dysgyblion, Yr oedd rhyw wr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr: a hwn a gyhuddwyd wrtho fel yn gwastraffu ei feddianau ef.