Luke 16:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hwn ’sy ffyddlawn yn y lleiaf, ysy ffyddlawn hefyd yn llawer: a’ hwn ’sy ancyfiawn yn lleiaf ys y ancyfiawn hefyt yn llawer.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y ffyddlawn yn y lleiaf, mewn llawer hefyd ffyddlawn yw; a’r hwn yn y lleiaf yn anghyfiawn, mewn llawer hefyd anghyfiawn yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr hwn sydd ffyddlon mewn ychydig, ffyddlon ydyw hefyd mewn llawer, a’r hwn sydd anghyfiawn mewn ychydig, anghyfiawn ydyw hefyd mewn llawer.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon hefyd mewn llawer; a'r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os gellir eich trystio chi gyda pethau bach, gellir eich trystio chi gyda pethau mawr. Ond os ydych chi'n twyllo gyda phethau bach, sut mae eich trystio chi gyda pethau mawr?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae rhywun sy'n gywir yn y pethau lleiaf yn gywir yn y pethau mawr hefyd, a'r un sy'n anonest yn y pethau lleiaf yn anonest yn y pethau mawr hefyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd ffyddlawn mewn ychydig sydd hefyd ffyddlawn mewn llawer: a'r hwn sydd anghyfiawn mewn ychydig sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer.