Luke 16:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny any a’s buoch ffyddlon ion yn y golud enwir, pwy a gred y chwy yn y gwir ’olud?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os, gan hyny, yn y mammon anghyfiawn nad oeddych ffyddlawn, pwy a ymddiried i chwi y gwir olud?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly, oni buoch ffyddlon gyda’r mamon anghyfiawn, pwy a ymddiried y gwir olud i chwi?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, oni buoch ffyddlon yn y mamon anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly os dych chi ddim yn onest wrth drin arian, pwy sy'n mynd i'ch trystio chi gyda'r gwir gyfoeth?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan hynny, os na fuoch yn gywir wrth drin y Mamon anonest, pwy a ymddirieda i chwi y gwir olud?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os gan hyny ni fuoch ffyddlawn yn y Mamon Anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi yr hyn sydd wirioneddol?