Luke 16:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nyd oes neb gwas a ddychon wasanaethu dau arglwydd: can ys ai ’n aill ai ef a gasaa vn, a’ charu ’r llall: ai ef a ’lyn wrth y naill, a’ thremygu ’r llall. Ny ellwch wasanaethu Duw a’ golud.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid oes gwas a ddichon wasanaethu dau arglwydd, canys un ai y naill a gasa ac y llall a gâr efe, neu wrth y naill yr ymlyn ac y llall a ddirmyga efe; ni ellwch wasanaethu Duw a mammon.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ni ddichon gwas wasanaethu dau arglwydd; canys un ai casâ’r naill a châr y llall, neu fe lŷn wrth y naill a dirmyga’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni ddichon un gwas wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga'r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac arian ar yr un pryd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni all unrhyw was wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ni ddichon un gwas teulu wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gashâ y naill, ac a gâr y llall: neu efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.