Luke 16:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r pethae hyn oll a glybu y Pharisaiait hefyt, yr ei oedden gubydd ion, a gwatworesont ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chlywed y pethau hyn oll yr oedd y Pharisheaid, a hwy yn ariangar, a gwatwarasant Ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd y Phariseaid, dynion ariangar, yn clywed yr holl bethau hyn, a gwawdient ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Phariseaid hefyd, y rhai oedd ariangar, a glywsant y pethau hyn oll, ac a'i gwatwarasant ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd y Phariseaid hyn roedden nhw'n gwneud hwyl am ben Iesu, gan eu bod nhw'n hoff iawn o'u harian.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y Phariseaid, sy'n bobl ariangar, yn gwrando ar hyn oll ac yn ei watwar.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Phariseaid, y rhai oeddynt ariangar, a glywsant yr holl bethau hyn, ac a'i gwawdiasant ef.