Luke 16:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot wrthynt, Chvvy chwi yw ’r ei ai cyfiawna vvch y ch hunain yn‐gwydd dynion: a’ Duw a ’wyr eich calonae: can ys y peth ’sy mevvn vchel fri gyd a dynion, y sy ffiaidd yn‐gwydd Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthynt, Chwychwi yw y rhai yn cyfiawnhau eich hunain ger bron dynion, ond Duw a ŵyr eich calonnau; canys yr hyn y sydd ymhlith dynion yn uchel, ffiaidd yw ger bron Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrthynt, “Chwychwi yw’r rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain gerbron dynion, ond gŵyr Duw eich calonnau; canys yr hyn sydd mewn bri ymhlith dynion, ffieiddbeth yw gerbron Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi yw'r rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain gerbron dynion; eithr Duw a ŵyr eich calonnau chwi: canys y peth sydd uchel gyda dynion, sydd ffiaidd gerbron Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw, “Dych chi'n hoffi rhoi'r argraff eich bod chi mor dduwiol, ond mae Duw yn gwybod beth sydd yn eich calonnau chi! Mae beth mae pobl yn ei gyfri'n bwysig yn ddiwerth yng ngolwg Duw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai wrthynt, "Chwi yw'r rhai sy'n ceisio eu cyfiawnhau eu hunain yng ngolwg y cyhoedd, ond y mae Duw yn adnabod eich calonnau; oherwydd yr hyn sydd aruchel yng ngolwg y cyhoedd, ffieiddbeth yw yng ngolwg Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi yw y rhai sydd yn cyfiawnhâu eich hunain gerbron dynion: ond y mae Duw yn gwybod eich calonau chwi: canys y peth sydd uchel yn mhlith dynion sydd ffieidd‐dra ger bron Duw.