Luke 16:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ haws yw i nef a’ daiar vyned heibio, nac y bydd i vn titul o’r Ddeddyf gwympo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac haws yw myned o’r nef a’r ddaear heibio nag i un tipyn o’r Gyfraith syrthio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr haws yw i’r nef a’r ddaear fyned heibio nag i un fachell o’r gyfraith syrthio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A haws yw i nef a daear fyned heibio, nag i un tipyn o'r gyfraith ballu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dydy hynny ddim yn golygu fod y Gyfraith bellach yn ddiwerth. Bydd y nefoedd a'r ddaear yn diflannu cyn i'r manylyn lleia o'r Gyfraith golli ei rym.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond byddai'n haws i'r nef a'r ddaear ddarfod nag i fanylyn lleiaf y Gyfraith golli ei rym.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond hawddach yw i Nef a daear fyned heibio nag i un tipyn o'r Gyfraith syrthio i'r llawr.