Luke 16:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Ydd oedd ryw ’wr goludawc a oedd yn gwisco porphor a lliein‐main, ac yn cymeryd ei vyt yn ddaentethol ac yn voethus peunydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr oedd rhyw ddyn goludog, ac ymwisgai â phorphor a lliain main, yn ymhyfrydu beunydd yn ysplenydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd rhyw ddyn yn gyfoethog, a gwisgai amdano borffor a lliain main, gan fwynhau byd da yn helaethwych beunydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr oedd rhyw ŵr goludog, ac a wisgid â phorffor a lliain main, ac yr oedd yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Roedd rhyw ddyn cyfoethog oedd bob amser yn gwisgo'r dillad mwya crand ac yn byw yn foethus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yr oedd dyn cyfoethog oedd yn arfer gwisgo porffor a lliain main, ac yn gwledda'n wych bob dydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd rhyw wr goludog; ac yr oedd yn arfer cael ei wisgo mewn porphor a llian teg gwerthfawr, gan fwynhâu ei hun bob dydd yn ysblenydd.