Luke 16:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu, bot i’r cardotyn varw, ac ef ðucpwyt can yr Angelon i vonwes Abraham. A’ marw o’r gwr-goludawc, a’ ei gladdy a wnaethpwyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu i’r dyn tlawd farw, a’i ddwyn ymaith gan yr angylion i fynwes Abraham: a bu farw hefyd y goludog, a claddwyd ef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A digwyddodd i’r tlotyn farw, a’i ddwyn ymaith gan yr angylion i fynwes Abraham; bu farw’r cyfoethog yntau, a chladdwyd ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, i'r cardotyn farw, a'i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham. A'r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Un diwrnod dyma'r cardotyn yn marw, a daeth yr angylion i'w gario i'r nefoedd at Abraham. Ond pan fuodd y dyn cyfoethog farw, a chael ei gladdu,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bu farw'r dyn tlawd, a dygwyd ef ymaith gan yr angylion i wledda wrth ochr Abraham. Bu farw'r dyn cyfoethog yntau, a chladdwyd ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu i'r dyn tlawd farw, a'i ddwyn ymaith gan yr Angelion i fynwes Abraham. A'r goludog hefyd a fu farw ac a gladdwyd: