Luke 16:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef yn yffern mewn poenae, y cyfodes ei olygon, ac a weles Abraham ym‐pell o yno, a’ Lazarus, yn ei vonwes.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn Hades gan godi ei lygaid, ac yntau mewn arteithiau, gwelai Abraham o hirbell a Lazarus yn ei fynwes.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan gododd ei lygaid yn Annwn, ac yntau mewn arteithiau, fe wêl Abraham o bell, a Lasarus yn ei fynwes.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lasarus yn ei fynwes.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
aeth i uffern. Yno roedd yn dioddef yn ofnadwy, ac yn y pellter roedd yn gweld Abraham gyda Lasarus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn Hades, ac yntau mewn poen arteithiol, cododd ei lygaid a gweld Abraham o bell, a Lasarus wrth ei ochr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac yn Hades efe a gododd ei olwg, ac efe mewn dirboenau, ac y mae yn gweled Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes.