Luke 16:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y llefawð, ac y dyvawt, Y Tat Abraham, trugarha wrthyf, a’ d anvon Lazarus, y drochy blaen ei vys mewn dwfyr, ac oeri vy‐tafawd: can ys im poenir yn y flamm honn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe, gan lefain, a ddywedodd, O Dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lazarus i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod, canys poenir fi yn y fflam hon.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A llefodd, ‘Dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lasarus i wlychu blaen ei fys mewn dŵr, ac oeri fy nhafod, canys fe’m dirboenir yn y fflam hon.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lasarus, i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod: canys fe a'm poenir yn y fflam hon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwaeddodd arno, ‘Fy nhad Abraham, plîs helpa fi! Anfon Lasarus yma i roi blaen ei fys mewn dŵr a'i roi ar fy nhafod i'w hoeri. Dw i mewn poen ofnadwy yn y tân yma!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A galwodd, 'Abraham, fy nhad, trugarha wrthyf; anfon Lasarus i wlychu blaen ei fys mewn du373?r ac i oeri fy nhafod, oherwydd yr wyf mewn ingoedd yn y tn hwn.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe ei hun a lefodd, ac a ddywedodd, Dâd Abraham, trugarhâ wrthyf, a danfon Lazarus, fel y trocho ben ei fys mewn dwfr, ac oeri fy nhafod, canys yr wyf fi mewn trallod yn y fflam hon.