Luke 16:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Abraham a ddyvot Ha vap, coffa yt gymeryt dy wynwyt yn dy vywyt yn gyffelip ac y cymerth Lazarus advyt: ac yr awrhon y confforddir ef, ac y poenir ti thef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd Abraham, Fy mhlentyn, cofia y derbyniaist dy bethau da yn dy fywyd; a Lazarus, yr un ffunud, y pethau drwg; ond yn awr y diddenir ef, a thydi a boenir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd Abraham, ‘Fy mhlentyn, cofia i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, a Lasarus yr un modd ei adfyd; ond yn awr fe’i diddenir ef yma, a’th ddirboeni dithau:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Abraham a ddywedodd, Ha fab, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lasarus ei adfyd: ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir dithau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond dyma Abraham yn ei ateb, ‘Fy mab, roedd gen ti bopeth roeddet ti eisiau ar y ddaear, ond doedd gan Lasarus ddim byd. Bellach mae e yma'n cael ei gysuro, a tithau'n cael dy arteithio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Fy mhlentyn,' meddai Abraham, 'cofia iti dderbyn dy wynfyd yn ystod dy fywyd, a Lasarus yr un modd ei adfyd; yn awr y mae ef yma yn cael ei ddiddanu, a thithau yn dioddef mewn ingoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond Abraham a ddywedodd, Blentyn, cofia i ti dderbyn dy bethau da yn dy fywyd, a Lazarus yr un modd y pethau drwg: ond yn awr y mae efe yma yn cael ei ddyddanu, ond tithau dy drallodi.