Luke 16:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac eb law hynn oll, y rhyngom ni a’ chwiy mae gagē dor ðirvawr wedy ’r ’osot, mal yr ei a ewyllysient vynet o ddyma ato‐chwi ny allant, nac o dd yna ddyvot atam ni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwi, gagendor mawr a sicrhawyd, fel y bo i’r rhai a ewyllysiant dramwy oddi yma attoch, fod heb y gallu; ac oddi yna attom ni na chroesont.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar ben hyn oll, y mae bwlch mawr wedi ei osod rhyngom ni a chwithau, fel na alle’r rhai a’i mynnai fynd trwodd oddi yma atoch chwi, na chroesi chwaith oddi yna atom ni.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrhawyd agendor mawr: fel na allo'r rhai a fynnent, dramwy oddi yma atoch chwi; na'r rhai oddi yna, dramwy atom ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A beth bynnag mae'r hyn rwyt yn ei ofyn yn amhosib, achos mae yna agendor enfawr yn ein gwahanu ni. Does neb yn gallu croesi oddi yma atat ti, a does neb yn gallu dod drosodd o lle rwyt ti aton ni chwaith.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwi y mae agendor llydan wedi ei osod, rhag i neb a ddymunai hynny groesi oddi yma atoch chwi, neu gyrraedd oddi yna atom ni.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac heblaw y pethau hyn oll, rhyngom ni a chwithau y mae gagendor mawr wedi ei sicrhâu, fel na allo y rhai a ewyllysient fyned drosodd oddi yma atoch chwi; na'r rhai oddi yna groesi drosodd atom ni.