Luke 16:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot ef. Can hyny atolygaf y‐ty dat, y ddanvon ef y duy vy‐tat
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd, Gofynaf, gan hyny, i ti ei ddanfon ef i dŷ fy nhad,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau, ‘Gan hynny gofynnaf iti, dad, a anfoni di ef i dŷ fy nhad
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn atolwg i ti gan hynny, O dad, ddanfon ohonot ef i dŷ fy nhad;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly dyma'r dyn cyfoethog yn dweud, ‘Os felly dw i'n ymbil arnat ti, plîs wnei di anfon Lasarus i rybuddio fy nheulu i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd ef, 'Os felly, fy nhad, rwy'n erfyn arnat ei anfon ef i du375? fy nhad,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond efe a ddywedodd, Yr wyf yn gofyn i ti, gan hyny, O dâd, ei anfon ef i dŷ fy nhâd;