Luke 16:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Abraham a ddyvot wrthaw. Mae ganthwynt Moysen a’r Prophwyti, gwrandawant arnynt wy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd Abraham, y mae ganddynt Mosheh a’r Prophwydi, gwrandawant arnynt hwy.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd Abraham, ‘Mae ganddynt Foses a’r proffwydi; gwrandawant arnynt hwy.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Abraham a ddywedodd wrtho, Y mae ganddynt Moses a'r proffwydi; gwrandawant arnynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond atebodd Abraham, ‘Mae Cyfraith Moses ac ysgrifau'r proffwydi yn eu rhybuddio nhw. Does ond rhaid iddyn nhw wrando ar y rheiny.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd Abraham, 'Y mae Moses a'r proffwydi ganddynt; dylent wrando arnynt hwy.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond Abraham a ddywed, Y mae ganddynt Moses a'r Proffwydi: bydded iddynt wrando arnynt hwy.