Luke 16:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot y goruchwiliwr ynthaw ehun. Pa beth a wnaf: can ys bot vy arglwydd yn dwyn yr oruchwiliaeth y arnaf? Cloddiaw ny allaf, a’ chardota ’sy wradwyðus genyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ynddo ei hun y dywedodd y distain, Pa beth a wnaf gan fod fy arglwydd yn dwyn y ddisdeiniaeth oddi arnaf? Cloddio ni allaf; cardotta sydd gywilyddus genyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd y goruchwyliwr ynddo’i hun, ‘Beth a wnaf, gan fod fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf? Cloddio nis gallaf, ac mae arnaf gywilydd cardota.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf? canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf: cloddio nis gallaf, a chardota sydd gywilyddus gennyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Beth dw i'n mynd i wneud?’ meddyliodd y fforman. ‘Dw i'n mynd i golli fy job. Dw i ddim yn ddigon cryf i fod yn labrwr, a fyddwn i byth yn gallu cardota.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai'r goruchwyliwr wrtho'i hun, 'Beth a wnaf fi? Y mae fy meistr yn cymryd fy swydd oddi arnaf. Nid oes gennyf mo'r nerth i labro, ac y mae arnaf gywilydd cardota.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf, gan fod fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi wrthyf? Nid oes genyf nerth i gloddio; ac y mae arnaf gywilydd i gardota.