Luke 16:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno gwedy iddaw alw ato pop vn o ddyledwyr ei Arglwydd, y dyvot wrth y cyntaf, Pa veint a ddyly vy Arglwydd yty?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi galw atto bob un o ddyledwyr ei arglwydd, dywedodd wrth y cyntaf. Pa faint sydd arnat i’m harglwydd? Ac efe a ddywedodd, Can bath o olew.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A galwodd ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd, ac meddai wrth y cyntaf, ‘Pa faint sydd arnat i’m harglwydd?’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo alw ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnat ti o ddyled i'm harglwydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A dyma beth wnaeth — cysylltodd â phob un o'r bobl oedd mewn dyled i'w feistr. Gofynnodd i'r cyntaf, ‘Faint o ddyled sydd arnat ti i'm meistr i?’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd ato bob un o ddyledwyr ei feistr, ac meddai wrth y cyntaf, 'Faint sydd arnat i'm meistr?'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a alwodd ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd ei hun, ac a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint o ddyled sydd arnat ti i'm harglwydd?