Luke 16:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot, Cant mesur o oleo. Ac ef a ddyvot wrthaw, Cymer dy escriven, ac eisteð yn ebrwydd, ac escrivenna ddec a’ deucain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy ysgrifen di, a chan eistedd, ar frys ysgrifena, “Deg a deugain.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau, ‘Can barilaid o olew.’ Dywedodd wrtho, ‘Cymer dy ymrwymiad, ac eistedd ac ysgrifenna ar unwaith hanner cant.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd, Can mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac eistedd ar frys, ac ysgrifenna ddeg a deugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Wyth can galwyn o olew olewydd,’ meddai. “Yna meddai'r fforman, ‘Tafla'r bil i ffwrdd. Gad i ni ddweud mai pedwar cant oedd e.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yntau, 'Mil o fesurau o olew olewydd.' 'Cymer dy gyfrif,' meddai ef, 'eistedd i lawr, ac ysgrifenna ar unwaith "bum cant."'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd, Can bath o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy ddyleb, ac eistedd ar frys, ac ysgrifena ddeg a deugain.