Luke 16:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot ef wrth vn arall, Pa gymeint o ddlet ’sy arna ti? Ac ef a ddyvot. Cant mesur o wenith. Yno y dyvot ef wrthaw, Cymer dy escriven, ac escrivenna petwar‐ucain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwedi’n wrth un arall y dywedodd, A thydi, pa faint sydd arnat? Ac efe a ddywedodd, Can cor o wenith. Dywedodd wrtho, Cymmer dy ysgrifen di, ac ysgrifena, “Pedwar ugain.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna dywedodd wrth un arall, ‘A thithau, pa faint sydd arnat?’ Dywedodd yntau, ‘Can pegaid o ŷd.’ Dywedodd wrtho, ‘Cymer dy ymrwymiad, ac ysgrifenna bedwar ugain.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd wrth un arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac ysgrifenna bedwar ugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Yna gofynnodd i un arall, ‘Faint ydy dy ddyled di?’ “‘Can erw o wenith,’ atebodd. “‘Tafla'r bil i ffwrdd,’ meddai'r fforman. ‘Dwedwn ni wyth deg.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai wrth un arall, 'A thithau, faint sydd arnat ti?' Atebodd yntau, 'Mil o fesurau o rawn.' 'Cymer dy gyfrif,' meddai ef, 'ac ysgrifenna "wyth gant."'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y dywedodd wrth arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can côr o wenith. Dywed wrtho, Cymmer dy ddyleb, ac ysgrifena bedwar ugain.