Luke 16:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a ganmolawdd yr Arglwydd y goruchwyliwr ancyfiawn, am iddaw wneythy d yn synhwyrol. Can ys synwyrolach yw plant y byt hwn yn ei cenetlaeth na phlant y golauni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chanmolodd yr arglwydd y distain anghyfiawn mai yn gall y gwnelsai; canys meibion y byd hwn ydynt gallach na meibion y goleuni, am eu cenhedlaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chanmolodd yr arglwydd y goruchwyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall; canys y mae plant yr oes hon yn gallach na phlant y goleuni tuag at eu cenhedlaeth, eu hunain.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Roedd rhaid i'r meistr edmygu'r fforman am fod mor graff, er ei fod yn anonest. Ac mae'n wir fod pobl y byd yn fwy craff wrth drin pobl eraill na phobl y golau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymeradwyodd y meistr y goruchwyliwr anonest am iddo weithredu yn gall; oherwydd y mae plant y byd hwn yn gallach na phlant y goleuni yn eu hymwneud 'u tebyg.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn am iddo wneuthur yn gall: canys y mae Meibion y byd hwn yn gallach tu ag at eu cenedlaeth eu hun na Meibion y goleuni.