Luke 16:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ mi addywedaf yw’ch. Gwnewch y‐chwy gereint a golud enwiredd, val pan vo eisiae arnoch, ich d erbyniant i’r trigvae tragyvythawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Myfi, wrthych y dywedaf, Gwnewch i’ch hunain gyfeillion o’r mammon anghyfiawn, fel pan ddiffygio, y derbyniont chwi i’r tragywyddol bebyll.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr wyf innau’n dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi eich hunain gyfeillion trwy’r mamon anghyfiawn, fel pan ballo y’ch derbynier chwi i’r tragwyddol bebyll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion o'r mamon anghyfiawn: fel, pan fo eisiau arnoch, y'ch derbyniont i'r tragwyddol bebyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n dweud wrthoch chi, gwnewch ffrindiau trwy ddefnyddio'ch arian er lles pobl eraill. Pan fydd gynnoch chi ddim ar ôl, bydd croeso i chi yn y nefoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac rwyf fi'n dweud wrthych, gwnewch gyfeillion i chwi eich hunain o'r Mamon anonest, er mwyn i chwi gael croeso i'r tragwyddol bebyll pan ddaw dydd Mamon i ben.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi eich hunain gyfeillion allan o'r Mamon Anghyfiawn, fel pan y pallo, y'ch derbyniont i'r tragywyddol bebyll.