Luke 17:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YNo y dyuot ef wrth ei ddiscipulon, Ny aill bot amgen, na ðaw rhwystrae, an’d gwae ef drwy ’r hwn y dauant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Ammhosibl yw na fo i’r tramgwyddau ddyfod; ond gwae y neb trwy yr hwn y deuant;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Ni ddichon na ddêl maglau, eithr gwae’r hwn y deuant drwyddo;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Ni all na ddêl rhwystrau: ond gwae efe trwy'r hwn y deuant!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Bydd bob amser bethau'n digwydd sy'n temtio pobl i bechu, ond gwae'r sawl sy'n gwneud y temtio!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrth ei ddisgyblion, "Y mae achosion cwymp yn rhwym o ddod, ond gwae'r sawl sy'n gyfrifol amdanynt;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Ni ellir caniatâu na ddaw achlysuron tramgwydd; ond gwae efe trwy yr hwn y maent yn dyfod.