Luke 17:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly chwi theu, gwedy gwneloch pop perh oll, ar a orchymynwyt y‐chwy, dywedwch, Paam, Gweision anvuddiol ym: can ys hyn a ddylesem ey wneuthy d, a wnaetham. Yr Euangel y xiiij. Sul gwedy Trintot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly chwithau hefyd, ar ol gwneuthur o honoch yr holl bethau a orchymynwyd i chwi, dywedwch, gweision anfuddiol ydym; yr hyn a ddylasem ei wneuthur a wnaethom.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly chwithau hefyd, wedi ichwi wneuthur popeth a orchmynnwyd i chwi, dywedwch, ‘Gweision anfuddiol ydym; yr hyn a ddylasem ei wneuthur a wnaethom’.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchmynnwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly chithau — ar ôl gwneud popeth dw i'n ei ofyn, dylech chi ddweud, ‘Dŷn ni'n haeddu dim. Gweision ydyn ni, sydd ddim ond yn gwneud beth mae disgwyl i ni ei wneud.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly chwithau; pan fyddwch wedi cyflawni'r holl orchmynion a gawsoch, dywedwch, 'Gweision ydym, heb unrhyw deilyngdod; cyflawni ein dyletswydd a wnaethom.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Felly chwithau hefyd, wedi i chwi wneuthur y cwbl oll a orchymynwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym! Yr ydym wedi gwneuthur yr hyn yw ein dyledswydd i wneuthur.