Luke 17:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan welawdd ef wy, y dyvot wrthynt, Ewch, ymddangoswch ir Offeiriait. Ac e ddarvu, ac wy’n yn mynet y glanhawyt hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan welodd hwynt, dywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid. A bu wrth fyned ymaith o honynt, y glanhawyd hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo’u gweled, fe ddywedodd wrthynt, “Ewch, a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid.” A phan oeddent ar y ffordd fe’u glanhawyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd efe hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i'r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a'u glanhawyd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd Iesu nhw, dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i ddangos eich hunain i'r offeiriaid.” Ac roedden nhw ar eu ffordd i wneud hynny pan wnaeth y gwahanglwyf oedd ar eu cyrff ddiflannu!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelodd ef hwy ac meddai wrthynt, "Ewch i'ch dangos eich hunain i'r offeiriaid." Ac ar eu ffordd yno, fe'u glanhawyd hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welodd, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i'r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a'u glanhâwyd hwynt.