Luke 17:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan yr ymofynit yðo y gan y Pharisaiait, pa bryd y dauei teyrnas Duw, yr atepei yddynt, ac y dywedei, Ny ðaw teyrnas Duw wrth i d ysgwyl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan ofynwyd Iddo gan y Pharisheaid, Pa bryd y daw teyrnas Dduw, attebodd iddynt, a dywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw gyda gwylied arni: ac ni ddywedant,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan ofynnwyd iddo gan y Phariseaid pa bryd yr oedd teyrnas Dduw yn dyfod, fe atebodd iddynt, “Nid yw teyrnas Dduw yn dyfod pan fo gwylio,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ofynnodd y Phariseaid iddo, pa bryd y deuai teyrnas Dduw, efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un diwrnod, dyma'r Phariseaid yn gofyn i Iesu, “Pryd mae teyrnasiad Duw yn mynd i ddechrau?” Atebodd Iesu, “Does yna ddim arwyddion gweledig yn dangos fod teyrnasiad Duw wedi cyrraedd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnwyd iddo gan y Phariseaid pryd y deuai teyrnas Dduw. Atebodd hwy, "Nid rhywbeth i wylio amdano yw dyfodiad teyrnas Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ofynwyd iddo gan y Phariseaid, Pa bryd y mae Teyrnas Dduw yn dyfod? efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Nid yw Teyrnas Dduw yn dyfod wrth sylwadaeth wyliadwrus.